My Voice My Choice - Cymru
Beth yw My Voice My Choice?
Mae ein rhaglen My Voice My Choice wedi'i chynllunio i ddatblygu eich sgiliau ymgyrchu ac eirioli fel y byddwch chi'n gallu gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol.
Sut mae'n gweithio?
Rydym wedi cynllunio cyfres o weithdai hyfforddi, sgyrsiau ysbrydoledig gan siaradwyr gwadd a mynediad at fentora un-i-un.
Mae'r digwyddiadau hyn i gyd wedi'u cynllunio i adeiladu eich hyder, tyfu eich rhwydwaith a rhoi'r adnoddau i chi fod yn ymgyrchydd effeithiol.
Sut gallaf gymryd rhan?
Bydd rhai digwyddiadau trwy wahoddiad, tra bydd rhai eraill yn agored i bawb, gyda rhai cyfyngiadau ar niferoedd. Cadwch lygad ar y dudalen hon i weld pob digwyddiad newydd yn mynd yn fyw, neu e-bostiwch ni gydag unrhyw gwestiynau yn: myvoicemychoiceenquiries@leonardcheshire.org.
Beth ydyn ni'n ei gwmpasu?
Ar ôl gwrando ar adborth gan gyfranogwyr, rydym yn gyffrous i rannu ein cyfres arfaethedig o ddigwyddiadau. Sylwch y gall y rhain newid:
Cyfleoedd hyfforddi
- Hawdd ei Ddeall
- Ffotograffiaeth Gyfranogol
- Model Cymdeithasol o Anabledd
Sgyrsiau ar gyfer ymgyrchwyr ysbrydoledig a hunan-eiriolwyr
Gan gynnwys Samantha Renke ar y model cymdeithasol o anabledd a pham 'nad yw anabledd yn air budr.'
Yn ogystal â siaradwyr gwadd gwych eraill yn rhannu eu profiad o eiriolaeth, ymgyrchu ac ysbryd entrepreneuraidd.
Mentora un-i-un
Mae Joshua Reeves, aelod gwerthfawr o dîm MVMC, yn ogystal ag ymgyrchydd hawliau anabledd llwyddiannus, wedi ymrwymo i rymuso pobl anabl gyda'r arfau i greu newid cadarnhaol yn eu cymunedau Cymreig.
Bydd yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i gefnogi eich ymgyrch ymgyrchu - beth bynnag fydd hynny.
O wella mynediad at Doiledau Changing Places, i greu podlediad a phopeth rhyngddynt, bydd arbenigedd Josh yn eich arwain tuag at wneud argraff fawr.
Cysylltwch â Joshua ar: joshua.reeves@leonardcheshire.org
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am Josh a sut i wneud cais am le ar y rhaglen fentora.
Fel person anabl, roedd y sesiynau a gynhelir gan Leonard Cheshire yn hanfodol. Mae helpu i sicrhau bod person anabl yn gwybod sut a ble i adrodd am drosedd gasineb a phwysigrwydd ffitrwydd yn hanfodol ac rwy’n cymeradwyo Leonard Cheshire am y gwaith y maent yn ei wneud.
Pecyn Cymorth Panel Dinasyddion
Dros y 2 flynedd ddiwethaf o'r rhaglen, rydym wedi datblygu'r adnodd gwych hwn ar y cyd â chyfranogwyr. Mae'n bleser gennym rannu'r Pecyn Cymorth Panel Dinasyddion hwn gyda chi, fel ffordd o sefydlu a rhedeg Panel Dinasyddion yn eich ardal a dechrau eich taith ymgyrchu ar dân.
Lawrlwythwch ein pecyn cymorth
Mae’n rhoi arweiniad cam wrth gam ar:
- Sut i sefydlu panel dinasyddion.
- Recriwtio cyfranogwyr.
- Ethol cadeirydd, rhedeg ymgyrch.
- A llawer o elfennau hanfodol eraill.